Brîff Ymchwil:
Amser cyfleuster(Facility Time) – Yr amser a gymerir yn ystod oriau gwaith gan swyddogion undeb perthnasol a ganiateir gan y cyflogwr i gynnal dyletswyddau penodol sy’n ymwneud â’r undeb llafur.
Asesiad Effaith Rheoleiddiol (Regulatory Impact Assessment (RIA))
Awdurdod datganoledig yng Nghymru (Devolved Welsh authority) - Awdurdod cyhoeddus sy’n arfer swyddogaethau sydd (a) yn arferadwy yn achos Cymru yn unig, a (b) yn cynnwys swyddogaethau nad ydynt yn ymwneud â materion a gadwyd yn ôl.
Bil yr Undebau Llafur (Cymru) (Trade Union (Wales) Bill) – Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer gweithredu diwydiannol a gweithgareddau’r undebau llafur o ran gweithrediadau awdurdodau cyhoeddus datganoledig a’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt.
Cymhwysedd Deddfwriaethol (Legislative Competence) – Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfu ar bynciau y mae ganddo gymhwysedd deddfwriaethol ynddynt. Mae meysydd cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad i’w gweld yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol (Legislative Consent Motion (LCM)) – Pan fo Senedd y DU yn awyddus i ddeddfu ar fater sydd wedi’i ddatganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid iddo, yn ôl confensiwn, geisio cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol cyn y caiff wneud y ddeddfwriaeth dan sylw. Mae’r Cynulliad yn rhoi ei gydsyniad drwy’r Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol.
Cynrychiolydd diogelwch (Safety representative)– Cynrychiolydd diogelwch a benodwyd o dan reoliadau a wneir o dan adran 2(4) o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974.
Cynrychiolydd dysgu yr undeb llafur (Trade union learning representative) - Swyddog undeb sydd â chyfrifoldebau am ddarparu gwybodaeth a chyngor a threfnu addysg neu hyfforddiant ar gyfer aelodau’r undeb, ac wrth wneud hynny ymgynghori â’r cyflogwr am unrhyw weithgareddau o’r fath.
Datgymhwyso – (Disapply/Disapplication) Dileu gofyniad cyfreithiol er mwyn ei wneud yn anghymwys neu’n annilys.
Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Government of Wales Act 2006)
Deddf yr Undebau Llafur 2016 (Trade Union Act 2016) – Deddf Llywodraeth y DU i wneud darpariaeth am weithredu diwydiannol, undebau llafur, cymdeithasau cyflogwyr a swyddogaethau’r Swyddog Ardystio.
Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992(Trade Union and Labour Relations (Consolidation) Act 1992)– Deddf i gydgrynhoi’r deddfiadau sy’n ymwneud â chysylltiadau llafur, hynny yw undebau llafur, cymdeithasau cyflogwyr, cysylltiadau diwydiannol a gweithredu diwydiannol.
Didynnu trwy’r gyflogres (Check-off) - Y broses o ddidynnu taliadau tanysgrifio o gyflog gweithiwr gan gyflogwyr yn y sector cyhoeddus.
Didynnu taliadau tanysgrifio i undebau (Deduction of union subscriptions) - Y broses o ddidynnu taliadau tanysgrifio o gyflog gweithiwr gan gyflogwyr yn y sector cyhoeddus, a elwir hefyd yn ‘check-off’.
Gwasanaethau cyhoeddus pwysig (Important public services) – Mae Deddf yr Undebau Llafur 2016 yn cyflwyno trothwy gofynnol bod yn rhaid i 40 y cant fwrw pleidlais o blaid gweithredu diwydiannol mewn gwasanaethau cyhoeddus pwysig. Y sectorau hynny yw iechyd, addysg (dan 17 oed), tân, trafnidiaeth, datgomisiynu sefydliadau niwclear a diogelu ffiniau.
Gweithredu diwydiannol (Industrial Action)
Partneriaeth gymdeithasol (Social Partnership) – Y dull a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i reoli staff y sector cyhoeddus a chysylltiadau diwydiannol mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Swyddog yr undeb llafur (Trade union official)
Trothwy pleidleisio ar gyfer gweithredu diwydiannol (Ballot threshold for industrial action) - Y lleiafswm sydd ei angen i bleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol.
Undeb Llafur (Trade Union)
Rhagor o wybodaeth
Os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch ag Osian Bowyer Osian.Bowyer@cynulliad.cymru yn y Gwasanaeth Ymchwil.